Estyn Dy Law
Mewn byd o gysgodion dwi 'di mynd ar goll
Estyn dy law, o estyn dy law dwi'n colli'n llwybr oll.
Mor ffug yw'r byd i'w glywed ond swynol ydi'r gan
Estyn dy law, o estyn dy law mae 'ngwaed ar dan.
Yn gyntaf o'n i'n fodlon yn coelio'r rhai gwen-deg
mi glywais 'mond yr alaw del heb sylwi'r geiriau rheg.
Rhyw hwyr o bell i droi yn ol a'r ddawns yn cylchu 'mlaen
wedi colli 'ngham ar y cerrig man yna'n baglu i gol y ddrain.
'Rol adael mro cynefin mi droediais palmant aur
ond mae'r golau'n cuddio'r cysgod sy'n tywyllu cam fy nhraed.
Fan hyn fan draw ni wn beth a ddaw, mae'r graith yn tynnu'n ffydd.
Estyn dy law, o estyn dy law a bod yn ffrind.
Dwi'n byw yn ddigyfeiriad yn methu gweld yn glir
fy nghlustia'n guriad poenus sy'n boddi geiriau'r gwir.
Mae'r niwl yn glos o' nghwmpas, yn ol a 'mlaen dwi'n troi
mewn palas hardd o rhyw liwiau claer, wedi 'nal a methu ffoi.
Fan hyn fan draw ni wn beth a ddaw, mae'r graith yn tynnu'n ffydd.
Estyn dy law, o estyn dy law a bod yn ffrind.
Mae'r harddwch yn troi i hagrwch a'r pleser yn troi i boen,
mae'r gwenwyn tu ol i'r harddwch yn symyd dan fy nghroen.
Yr angel yn troi i ddiafol a'r rhaff yn tynnu'n dyn,
Dwi'n teimlo mod i'n boddi yn colli gafael ar fy hyn.
Ond wrth i'r haul ymddangos daw gwres i fewn i'm gwaed,
A'r gobaith o oleuni yn atsain yn fy ngwaedd.
Estyn dy law fy nghyfaill a'm tynnu'n frys o'r llaid
A mi gerddwn gyda'n gilydd i fewn i'r gwagle pan fu rhaid.